Newyddion diweddara'

Prosiect Blwyddyn 6


Yn galw disgyblion blwyddyn 6 - fydd yn blwyddyn 7 yn fuan!

book cover millionsMae gennym ddigon o wybodaeth i dy helpu gyda dy waith prosiect dros yr haf yn seiliedig ar 'Framed' a 'Millions' gan Frank Cottrell Boyce.

Os wyt ti newydd orffen blwyddyn 6 ac yn symud i'r ysgol uwchradd ym mis Medi, mae'n siwr dy fod wedi cael llyfryn gwaith estynol i'w wneud dros yr haf. Yn y llyfryn mae gweithgareddau i'w cwblhau dros y gwyliau - ond os nad wyt ti'n siwr iawn ble i ddechrau wel paid a phoeni - mae help wrth law!

  • Os oes gen ti angen copi sbar o Lyfryn Gwaith Estynol yr Haf gei di lawrlwytho un yma:
    Clawr Blaen
    Cynnwys
    Clawr Cefn
  • Dos draw i dy lyfrgell leol, mae'r staff i gyd yn gyfeillgar ac mae llyfrau ar gael fydd o help i ti hefo'r prosiect a gei di ddefnyddio'r cyfrifiaduron yno am ddim i edrych ar y gwefannau gwahanol neu i deipio dy waith! Cofia!! Rhaid i ti gael tocyn llyfrgell. Os nad oes gen ti docyn yna gofyn i dy rieni neu pwy bynnag sy'n edrych ar dy ôl i lenwi'r ffurflen sydd yng nghefn y llyfryn gwaith a dos a'r llyfryn gyda ti er mwyn cael tocyn.

Mwy o Help

Yn fan hyn mae llawer o linciau i wefannau fydd yn help i ti gyda'r prosiect

Gwaith cyfrwng Saesneg i'r ysgolion ydi hwn, felly tudalennau Saesneg yn unig yw rhain