Amdanom Ni

girl using laptopMae prosiect Gwefan Conwy Ifanc yn cael ei ariannu o gymorthdal gan Cymorth dderbyniwyd gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc o’r Cynulliad Cenedlaethol a’i gefnogi gan wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Conwy.

Mae Conwy Ifanc yn wefan sy’n dy alluogi i gael mynediad uniongyrchol i wybodaeth a chymorth – mae hefyd yn le arlein i ti gael dweud dy ddweud, rhoi dy farn, cyfrannu erthyglau a dysgu am dy hawliau.

Mae Conwy Ifanc 1 yn lle i blant bach (a’u rhieni a gofalwyr) ddarganfod pethau llawn hwyl a chael gwybodaeth lleol.
Mae Conwy Ifanc 2 yn lle i bobl ifanc ddod o hyd i gymorth a chyngor a chael gwybod be’ sy’n digwydd.

Dyma’r Lle i TI!

Mae’n lle arlein i ti gael dweud dy ddweud a rhoi dy farn a chyfrannu erthyglau. Croeso mawr i ti wneud hyn. Byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr dy adborth, awgrymiadau a dy farn am y wefan, dy fywyd neu Conwy.

Methu dod o hyd i’r hyn ‘rwyt yn chwilio amdano?

‘Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu yr HOLL gymorth a gwybodaeth lleol y gallet fod angen, be’ bynnag fydd dy broblem. Os na fyddi’n gallu dod o hyd i’r ateb i dy gwestiwn ar dudalennau’r wefan yma, neu bod gennyt gwestiwn penodol iawn, cofia bod croeso i ti gysylltu â ni trwy:

Lenwi y ffurflen adborth yma

Ebost i: info@conwyifanc.com
Cyfeiriad: Conwy Ifanc, D/O Llyfrgell Bae Colwyn, Woodland Road West, Bae Colwyn. LL29 7DH.
Ffôn: 01492 577510

Edrych ar gopi o'n Polisi Cyfrinachedd yma