Cystadleuaeth Cineworld
Llongyfarchiadau i Jamie, sydd wedi ennill tocynnau Cineworld mis Awst a diolch i bawb arall am eu cynigion. Os nad wyt ti wedi bod yn lwcus hyd yma - dal ati ac efallai mai ti fydd y nesa' i ennill DAU docyn Cineworld i weld ffilm o dy ddewis DI!
Scott Pilgrim Vs The World
Tipyn o lipryn yw Scott Pilgrim ond yn fachgen digon dymunol. Mae'n chwarae mewn band ond tydio erioed wedi cael llawer o lwc hefo'r genod. Pan ddaw Ramon Flowers i'w fyd mae Scott yn credu ei fod wedi dod o hyd i gariad ddelfrydol, ond yn fuan mae'n sylweddoli bod problem fawr ac annisgwyl yn ei wynebu.......
Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ar yr 25ain o Awst. I archebu tocynnau ymlaen llaw ffonia:
0871 200 2000 neu dos i: www.cineworld.co.uk
Mae CINEWORLD yn parhau i gynnig cefnogaeth wych i wefan Conwy Ifanc ac wedi rhoi DAU docyn am ddim ar gyfer FFILM O DY DDEWIS DI yn Cineworld, Cyffordd Llandudno!
Am gyfle i ennill y tocynnau y cyfan sydd rhaid i ti wneud yw ateb y cwestiwn canlynol:
Mae'r ffilm wedi ei seilio ar y gyfres wych o nofelau graffig gan awdur o Ganada. Pa un o'r rhain yw enw'r awdur?
a) Bryan Lee O'Malley
b) Bryan Scott O'Malley
c) Bryan John O'Malley
Pan fyddi'n gwybod yr ateb anfon ebost i: info@conwyifanc.com
neu defnyddia'r ffurflen sydd yma
Cofia gynnwys dy fanylion er mwyn i ni allu cysylltu os bydd angen!!!!!!!!!!
Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Dydd Llun 27ain o Fedi 2010.
Ar y dyddiad hwn, yr enw cyntaf allan o'r het fydd yn ennill y tocynnau!
POB LWC!

