Rydan Ni am i Ti fod yn Ddiogel Arlein

girl using a laptop computerPaid a bod yn agored i beryglon arlein neu seiber fwlio a chadw draw o  sefyllfaoedd drwg arlein fydd â chanlyniadau erchyll!  

Yn anffodus, gyda'r holl dechnoleg newydd 'rydan ni'n ei fwynhau heddiw, pethau fel anfon negeseuon ar y pryd, 'stafelloedd sgwrsio a ffonau symudol mae'n haws nac erioed i rai sy'n camdrin plant a phobl ifanc ddod o hyd i dy fanylion a dod o hyd i TI!

Felly, tybed wyt ti'n gwybod digon am fod yn ddiogel ar y rhyngrwyd?

think u know logo and link

Gyda thechnoleg newydd yn datblygu trwy'r amser, byddet yn cael dy synnu mor hawdd yw cael dy dwyllo i lawrlwytho feirws i dy ffôn neu dy gyfrifiadur a chael dy wneud yn agored i niwed arlein!

Mae 'na wefan (yn Saesneg) sy'n rhoi gwybodaeth a ffeithiau ynglyn â be' sy'n dda a be' sy'n ddrwg ar y rhyngrwyd a ffonau symudol. I gael gwybod mwy clicia ar y logo Think U Know fan hyn

Dwed wrth rywun os wyt ti'n cael dy gamdrin arlein 

Os wyt ti mewn perygl ar hyn o bryd ffonia 999!

ceop reoort abuse buttonEr mwyn gwneud cwyn arlein (yn Saesneg) am unrhyw seiber fwlio, os bydd rhywun yn ymddwyn yn rhywiol arlein, problemau gyda feirws, ffonau symudol neu hacio clicia'r botwm yma: