Dy Stwff
Wrth edrych o gwmpas gwefan Conwy Ifanc, mae’n siwr y byddi’n sylwi bod llawer o bobl ifanc diddorol a thalentog yn yr ardal! Mae gan pawb stori yn ôl y sôn, felly ‘rydan ni’n awyddus i roi cyfle i unrhyw un sy'n darllen hwn i 'sgwennu darn i’r wefan!
‘Rydan ni am i ti ‘sgwennu a dweud wrthym amdanat dy hun. Oes gen ti dalent arbennig? Efallai dy fod yn artist neu’n gerddor ac y byddet yn hoffi dweud wrthym sut y byddi’n mynd o’i chwmpas hi wrth greu darn o waith, pwy sy’n dylanwadu arnat a pham dy fod yn mwynhau cymaint! Ydi dy fywyd wedi bod yn antur enfawr gydag uchelbwyntiau ac iselbwyntiau yr hoffet sôn amdanynt? Wyt ti wedi bod ar daith i rywle a gwneud a gweld rhyfeddodau sydd wedi newid dy fywyd?
Os oes gen ti stori neu gyngor defnyddiol neu wybodaeth yr hoffet ei rannu, cofia byddwn yn falch o’r cwbl! Hwyrach yr hoffet anfon adolygiad o ffilm yr wyt wedi ei gweld yn ddiweddar, albwm yr wyt wedi gwrando arni neu gwyl y gwnest ei mwynhau dros yr ha’. Dy ddewis di! ‘Sgwenna di’r geiriau a byddwn ni yn eu rhoi ar Conwy Ifanc i weddill y byd eu darllen!
- Gall yr erthygl fod yn hir neu’n fyr ar unrhyw bwnc – gei di benderfynu!
- Os hoffet rannu dy waith ond ddim am i ni gyhoeddi dy enw am unrhyw reswm, gad i ni wybod a byddwn yn rhoi ‘anhysbys’ wrth dy waith.
- Efallai na fyddwn yn gallu cyhoeddi pob un darn y byddwn yn ei dderbyn ond fe wnawn ein gorau!
- Gwna dy orau i gadw iaith y gwaith yn lân – er gall fod yn anodd mae’n siwr! Byddwn mewn pob math o drafferth os byddwn yn cynnwys rhai o’r geiriau lliwgar mae pobl ifanc yn eu defnyddio!
- Gan mai dy waith di fydd yr erthyglau cyfan mae’n rhaid i ni gael dy ganiatad llawn cyn gallu eu rhoi ar y wefan. Byddai’n ddefnyddiol iawn i ni pe byddet yn gallu rhoi’r geiriau canlynol ar ddiwedd dy erthygl: ‘’Rydw i, (dy enw) yn rhoi caniatad i Conwy Ifanc gyhoeddi’r erthygl yma’ – dyna’r math o beth!
Felly, dyma dy gyfle! Er ein bod wedi cynnig rhai syniadau mae’n siwr y byddi’n gallu meddwl am rhywbeth llawer gwell! Rho gynnig arni a rho wybod i ni! Gei di unai anfon dy erthygl i info@conwyifanc.com
neu defnyddia'r ffurflen sydd yma
Hwyl ar y ‘sgwennu!

