hangtab
*

Cyfarfodydd nesaf o’r Cyngor Ieuenctid llawn – 2010/11

Bydd ein cyfarfodydd nesaf o’r Cyngor Ieuenctid llawn ar:

Nos Fercher 8/10/2010 5pm-7pm

No Lun 8/11/2010 5pm-8.30pm

Nos Lun 17/1/2011  6.30pm-8.30pm

Nos Fawrth 15/2/2011 6.30pm-8.30pm

Nos Fercher 16/03/2011 6.30pm-8.30pm

Nos Iau 14/4/2011 6.30pm-8.30pm

Nos Lun 9/5/2011 6.30pm-8.30pm

Nos Fawrth 14/6/2011 6.30pm-8.30pm

Cysylltwch â ni: cyfranogi@conwy.gov.uk 01492 574119 neu 07717 543122

by Joy for General

No Comments

Add Your Thoughts

Etholiadau Cyngor Ieuenctid Conwy!

Bydd Cyngor Ieuenctid Conwy yn chwilio am aelodau newydd ym mis Medi 2010 yn lle aelodau sydd naill ai wedi camu i lawr neu sydd wedi gadael yr Cyngor Ieuenctid. 

Ysgolion / Colegau sydd angen aelodau newydd:

  • Ysgol Aberconwy
  • Ysgol John Bright
  • Coleg Llandrillo
  • Ysgol Bryn Elian
  • Ysgol Eirias
  • Ysgol Dyffryn Conwy
  • Ysgol y Creuddyn

Mae Cyngor Ieuenctid Conwy yn grŵp o bobl ifanc (rhwng 11 a thua 21 oed) gyda’r nod o ddarparu cyfle i’r holl bobl ifanc sy’n byw yn sir Conwy i ddweud eu dweud am y pethau sy’n effeithio arnoch chi. Mae hwn yn gyfle gwych i gwrdd â phobl ifanc eraill o Gonwy ac i gael dylanwad go iawn ar y modd mae pethau’n cael eu rhedeg yn y sir.

Sut mae bod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Conwy?

Mae dau gynrychiolydd o bob ysgol uwchradd yng Nghonwy a phedwar cynrychiolydd o Goleg Llandrillo. Mae aelodau yn cael eu hethol yn ddemocrataidd (pleidlais) o fewn eich ysgol neu goleg. Nid ydym o reidrwydd yn chwilio am aelodau cynghorau ysgol i fod yn gynrychiolwyr oherwydd mae ganddynt lawer o gyfrifoldebau yn barod.

Beth a ddisgwylir gan Aelodau Cyngor Ieuenctid?

  • Rhwng 11 a thua 21 oed a byw yn sir Conwy
  • Yn fodlon ac yn gallu dod i un cyfarfod y mis (gyda’r nos) a diwrnodau hyfforddiant achlysurol (penwythnos). Penwythnos gyntaf 1 – 2 Hydref 2010
  • Yn fodlon cynrychioli’r bobl ifanc eraill yn eich ysgol/coleg (trwy eich cyngor ysgol/cynrychiolwyr cwrs) ac yn gallu gwneud hynny
  • Cymryd rhan fel grŵp mewn prosiectau i wella pethau ar gyfer pobl ifanc yng Nghonwy (gan weithio gyda Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Conwy)
  • Aros ar y Cyngor Ieuenctid am hyd at ddwy flynedd (ymrwymiad o flwyddyn o leiaf)

Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd y Cyngor Ieuenctid yn digwydd y tu allan i oriau ysgol / coleg ac fel arfer maent yn cael eu cynnal tua unwaith y mis.

I gael rhagor o wybodaeth gofynnwch i’r aelodau presennol yn eich ysgol, cydlynydd cyngor ysgol neu ffoniwch Joy Chiplin ar 01492 574119, neu anfonwch neges e-bost trwy ddefnyddio ein Ffurflen Gysylltu.

by Joy for General, Newyddion

No Comments

Add Your Thoughts

Dwed dy ddweud!

Mae Conwy yn diweddaru ei gynllun ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym eisiau gwybod am beth sy’n bwysig i chi! Am gyfle i ddweud eich dweud, llenwch yr holiadur, a’i yrru yn ôl atom dros ebost neu rhadbost erbyn 31 Awst.

Os ydych yn cynnwys eich enw a chyfeiriad ebost, bydd cyfle i ennill wobr o docyn sinema.

Holiadur  <– cliciwch yma!

by Joy for Newyddion

No Comments

Comments Off

Cyfarfod nesaf!

 

 Cyfarfod nesaf – nos Iau Mai 13,  6.15pm yn y Clwb Ieuenctid Conwy.

 Gweld chi yna!

 8-)

by Joy for Meetings

No Comments

Add Your Thoughts

Cyfarfod nesaf!

 

Cyfarfod nesaf – nos Fercher Ebrill 14,  6.00pm yn y Clwb Ieuenctid Cyffordd Llandudno.

Gweld chi yna!

 8-)

by Joy for General, Meetings

No Comments

Add Your Thoughts

Ddiweddaraf

Mae’r flwyddyn newydd yn dod â chyfnod cyffrous ar gyfer Cyngor Ieuenctid Conwy gyda llawer o bosibiliadau ar

gyfer prosiectau rydym yn ceisio eu datblygu.

Mae’r rhain yn cynnwys gwaith:

- Gwrth-fwlio

- Hyrwyddo delweddau positif o bobl ifanc

- Cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc LGBTQ

- Hawliau plant a phobl ifanc

Rydym rŵan yn casglu nôl ein holiaduron ar sut mae bwlio’n cael ei drin yng Nghonwy, a sut yw’r ffordd orau o hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc. Efallai dy fod wedi cael un gan un o dy gynrychiolwyr neu gofynnwyd i ti ymweld â’n gwefan i’w lenwi.

Hefyd, cadw lygad am ein taflenni a’n posteri newydd mewn rhywle agos iawn atat ti!

by Joy for Newyddion

No Comments

Add Your Thoughts

Cynllun Plant a Phobl Ifanc Conwy 2008-2011

Mae gan bob sir yng Nghymru gynllun ar sut i gydweithio i wella bywydau plant a phobl ifanc.

Datblygwyd cynllun yng Nghonwy’r llynedd. Mae’r ddogfen yma’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn gwneud y cynllun yn realiti.

Cynllun pwy yw hwn?

Mae Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Conwy yn cynnwys yr holl grwpiau a gwasanaethau sy’n rhan o fywydau plant a phobl ifanc yng Nghonwy. Ond eich cynllun chi – plant a phobl ifanc Conwy – yw hwn hefyd ac mae’n cael effaith ar eich bywydau a’r hyn sydd ar gael i chi.

Ein gwaith hyd yn hyn!

Rydym wedi cyflawni nifer o bethau dros y flwyddyn ddiwethaf:

Cynllun Plant a Phobl Ifanc Conwy

by Joy for Newyddion

No Comments

Add Your Thoughts

Cyfarfod nesaf!

Cyfarfod nesaf – nos Llun nesaf 6.30pm yn y Clwb Ieuenctid Bae Colwyn.

Gweld chi yna!

8-)

by Joy for Meetings

No Comments

Add Your Thoughts

Cynrychiolwyr Conwy ar Draig Ffynci

Draig FfynciY Ddraig Ffynci – cynulliad ieuenctid Cymru.

Mae gan sir Conwy 4 gynrychiolydd ar y Ddraig Ffynci:

Cynrychiolydd Cynghorau Ysgol – Jess Simonds

Cynrychiolydd Sector Gwirfoddol – Matthew Higgins

Cynrychiolydd Sector Statudol – Siwan Rhys

Cynrychiolydd Cydraddoldeb – Jade Mills

Pwrpas y rôl yw cynrychioli Conwy are lefel cenedlaethol - byddai disgwyl i ti fynd ar ychydig o benwythnosau preswyl mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru, a chymryd rhan mewn gweithgareddau Cyngor Ieuenctid Conwy.

Am ragor o wybodaeth:

Cysyllta â Tîm Cyfranogi Conwy cyfranogi@conwy.gov.uk neu edrycha ar safle gwe’r Ddraig Ffynci -

www.draigffynci.org.uk

by Joy for Newyddion

No Comments

Comments Off

Cyfarfod Nesaf!

Cyfarfod nesaf – Nos Iau 14 Ionawr 2010, 6.30pm yn y Clwb Ieuenctid Conwy, Conwy.

Gweld chi yna!

 

Joy

by Joy for General

No Comments

Add Your Thoughts